![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/Rhyl_Seafront_-_geograph.org.uk_-_388762.jpg/640px-Rhyl_Seafront_-_geograph.org.uk_-_388762.jpg&w=640&q=50)
Y Rhyl
tref a chymuned yn Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref glan môr a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Y Rhyl. Roedd cynt yng Nghlwyd, a chyn hynny yn Sir y Fflint. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).
![]() | |
Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 25,149 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3212°N 3.4802°W ![]() |
Cod SYG | W04000173 ![]() |
Cod OS | SJ015815 ![]() |
Cod post | LL18 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd[angen ffynhonnell] sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.