Xixón
dinas ac ardal weinyddol yn Asturias / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas ddiwydiannol arfordirol yw Xixón (Sbaeneg: Gijón) sydd wedi'i lleoli yng Nghymuned Ymreolaethol Astwrias yng ngogledd Sbaen. Mae hefyd yn israniad gweinyddol a elwir yn Cotarros (Sbaeneg: comarca). Yn ôl testunau hynafol a ddarganfuwyd, cyfeirid at y ddinas fel "Gijia" yn wreiddiol. Roedd hi'n ddinas bwysig yn yr oes Rufeinig, fel y tystia'r gweddillion y daethpwyd o hyd iddynt ger y prom modern. Yn wreiddiol, cyfeiria'r enw "Gijia" at y penrhyn bach a elwir yn Cimadevilla y dyddiau hyn; wrth i'r ddinas ddatblygu a thyfu, datblygodd o gwmpas y traethau sy'n amgylchu'r penrhyn a'r porthladd. Prif borthladd y ddinas yw "El Musel", un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen. Mae poblogaeth Xixón yn dal i gynyddu. Ar hyn o bryd, mae tua 275,000 (2005).
Math | council of Asturies |
---|---|
Prifddinas | Gijón City |
Poblogaeth | 268,313 |
Pennaeth llywodraeth | Carmen Moriyón |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Sant Pedr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Province of Asturias |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 184.31 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Gerllaw | Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Corvera, Llanera, Carreño, Siero, Sariegu, Villaviciosa |
Cyfesurynnau | 43.52931°N 5.67732°W |
Cod post | 33201–33213, 33200 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Gijón |
Pennaeth y Llywodraeth | Carmen Moriyón |