Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gweler Y Rhyfel byd Cyntaf am y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyffredinol
Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Cynghreiriaid
|
Pwerau Canolog | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Meirw milwrol: 5,525,000 Meirw dinesig: 4,000,000 Cyfanswm y meirw: 18,356,500 |
Meirw milwrol: 4,386,000 Meirw dinesig: 8,388,000 Cyfanswm y meirw 12,774,000 |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
CBAC | |
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf (28 Gorffennaf 1914-Tachwedd 11, 1918) effaith mawr ar hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Gwnaed Gymru cyfraniad sylweddol i'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Er enghraifft, o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a'r economi . Gwirfoddolodd llawer iawn o Gymry i ymladd yn y rhyfel. Yn nhermau canrannol, recriwtiwyd mwy o Gymry na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod ac ymladdodd milwyr o Gymru yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel megus y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele.
Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Frydeinig a gwnaeth gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru gyfraniad enfawr i ymdrech y rhyfel. Arweiniwyd yr ymgyrch ryfel gan y Cymro, David Lloyd George, y Prif Weinidog rhwng 1916 a 1918. Penderfynodd Lloyd George ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Golygai hyn bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag yr ymdrech ryfel mewn ryw ffordd neu gilydd, naill ai ar y Ffrynt Cartref neu ar y ffrynt ymladd. Dangosodd ei sgil fel arweinydd ac areithiwr oedd yn medru codi moral ac ysbryd y bobl i fod yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain.
Effeithiwyd ar bob agwedd o gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i’r wlad golli cenhedlaeth gyfan o’i phobl, gyda’r niferoedd a gollodd eu bywydau, yn ddynion a merched yn cyrraedd tua 40,000 yn y Rhyfel Mawr.[1]