Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Hawliau sifil a gwleidyddol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Categori o hawliau sy'n amddiffyn rhyddid unigolion rhag ymyrraeth gan lywodraethau a mudiadau preifat ydy hawliau sifil a gwleidyddol. Maent yn sicrhau fod unigolyn yn medru cymryd rhan ym mywyd gwladol a gwleidyddol heb ragfarn neu orthrwm.
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ymgyrch Diarfogi Niwclear | |
CBAC | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae hawliau sifil yn cynnwys amddiffyn integredd a diogelwch corfforol pobl; amddiffyn rhag camwahaniaethu ar seiliau megis anabledd corfforol neu feddyliol, rhyw, crefydd, hîl, ethnigrwydd, oed,cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth ryweddol; hawliau'r unigolyn megis rhyddid meddwl a chydwybod, rhyddid i siarad, rhyddid y wasg a rhyddid i symud.
Wrth edrych ar enghreifftiau mewn hanes mae pobl ar draws y canrifoedd wedi gorfod brwydro, ymladd ac amddiffyn eu hawliau sifil a gwleidyddol er mwyn ceisio sicrhau cyfiawnder, lleisio eu barn neu unioni cam. Mae hawliau sifil a gwleidyddol bobl wedi bod yn bwysig mewn hanes oherwydd maent yn sicrhau fod gan unigolion rhyddid barn sy’n rhydd oddi wrth ddylanwad sefydliadau neu unigolion neu ymyrraeth oddi wrth y Llywodraeth. Gall bobl wedyn leisio eu barn a chymryd rhan ym mywyd gwleidyddol a gwladol heb ofni gorthrwm.
Wedi eu hysbrydoli gan y Chwyldro Ffrengig a’r Rhyfel Annibyniaeth yn America aeth grŵp o bobl, sef y Radicaliaid, ati i gyflwyno mwy o ddemocratiaeth yn y ffordd roedd y wlad a’i phobl yn cael eu rheoli. Credent os fyddai Prydain yn troi’n wlad fwy democrataidd yna byddai safon byw y dosbarth gweithiol yn gwella. Roedd rhyddid yr unigolyn yn hollbwysig iddynt a chredent bod hi’n bwysig bod yr unigolyn hynny yn cael llais yn y ffordd roedd y wlad yn cael ei llywodraethu.
Gyda’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth ac i ddiddymu caethwasiaeth roedd bobl du yn brwydro yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn eu hil ac i sicrhau hawliau cydradd gyda’r dyn gwyn. Yn y 18fed ganrif roedd William Wilberforce yn allweddol yn y frwydr hon a draw yn ne Affrica’r 20fed ganrif roedd Nelson Mandela wedi dod i’r amlwg fel arweinydd y frwydr yn erbyn apartheid.
Bu’r dosbarth gweithiol yng Nghymru ddiwydiannol y 19eg ganrif yn protestio er mwyn ennill yr hawl wleidyddol sylfaenol i gael y bleidlais gyda gweithwyr haearn Merthyr yn terfysgu yn 1831 a’r Siartwyr yn trefnu gorymdeithiau yng Nghasnewydd a Llanidloes. Erbyn yr 20fed ganrif roedd y Swffragetiaid wedi camu ymlaen i ymgyrchu dros hawliau gwleidyddol merched ac yn nes ymlaen yn yr 20fed ganrif roedd grwpiau a mudiadau pwysedd fel CND yn ymgyrchu dros heddychiaeth. Roedd Cymdeithas yr Iaith, a ddaeth i fodolaeth yn 1962, yn protestio er mwyn ennill mwy o statws i’r iaith Gymraeg fel bod ei siaradwyr yn cael ymarfer eu hawliau sifil i fedru defnyddio eu mhamiaith yn eu bywyd a gwaith bob dydd yng Nghymru.