Albius Tibullus
bardd Rhufeinig a llenor marwnadau (c. 55 CC - 19 CC) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd Rhufeinig oedd Albius Tibullus (tua 55 CC – 19 CC) sydd yn nodedig fel un o brif alarnadwyr yr oes Ladin glasurol, ar y cyd â Propertius ac Ofydd.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Albius Tibullus | |
---|---|
Tibullus yn Nhŷ Delia (1866), paentiad olew gan Lawrence Alma-Tadema sydd yn dychmygu'r bardd (chwith) yn adrodd ei gerddi i'w gariad Delia a chriw o'u cyfeillion.[1] | |
Ganwyd | 1 g CC Gabii |
Bu farw | 10s CC Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | bardd, marwnadwr |
Blodeuodd | 1 g CC |
Adnabyddus am | Corpus Tibullianum |
Tad | Unknown |
Mam | Unknown |
Cau
Nid oes manylion sicr o'i fywgraffiad. Mae'n bosib iddo hanu o Pedum, ger Praeneste. Mae'n debyg yr oedd yn farchog, ac yn un o gymdeithion y cadfridog Marcus Valerius Messalla Corvinus.[2]
Ysgrifennodd Tibullus ddau lyfr o farddoniaeth, y Delia a'r Nemesis. Priodolir ambell waith arall iddo, ar gam mae'n debyg.