Mochyn (genws)
disgynnydd baeddod gwyllt sy'n anifail fferm pwysig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mochyn yw anifail sy'n aelod o'r genws Sus o fewn y teulu Suidae, sydd yn garnolion eilrif-fyseddog (Artiodactyla). Yr enw ar fochyn bach yw porchell (ll. perchyll). Gall y gair 'moch' gyfeirio at foch dof, mochyn gwyllt Ewropeaidd (Sus scrofa) ac eraill. Yn yr un teulu, ond mewn genws ar wahân mae'r mochyn gwyllt, pecari, barbirwsa a'r Phacochoerus. Maent yn frodorol o Ewrasia ac Affrica. Yr enw ar fochyn bach yw porchell (ll. perchyll). Mae moch yn hollysyddion, ac felly'n bwyta cig, planhigion, ffwng ayb ac maent yn greaduriaid cymdeithasol a chall.[1] Y ffurf dorol ydy 'cenfaint o foch'.
- Am y mochyn wedi ei ddofi, gweler Mochyn (dof)
Ffeithiau sydyn Moch, Dosbarthiad gwyddonol ...
Moch | |
---|---|
Moch dof | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Mammalia |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Suidae |
Genws: | Sus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
Gweler y rhestr |
Cau