Sioux
From Wikipedia, the free encyclopedia
Defnyddir yr enw Sioux am nifer o grwpiau ethnig brodorol yn yr Unol Daleithiau. Rhennir hwy i dair prif adran:
- Isanti ("Cyllell", yn wreiddiol o enw llyn yn Minnesota): yn byw yn nwyrain taleithiau Gogledd a De Dakota, yn Minnesota a gogledd Iowa. Gelwir hwy yn aml yn Santee neu'n Dakota.
- Ihanktowan-Ihanktowana ("Pentref-yn-y-pen-draw" a "Pentref-bychan-yn-y-pen-draw", yn byw yn ardal Afon Minnesota. Ystyrir hwy fel y Sioux canol, ac yn aml gelwir hwy yn Yankton neu'n Dakota Gorllewinol.
- Teton ("Preswylwyr y Paith"): y Sioux mwyaf gorllewinol, yn enwog fel helwyr a rhyfelwyr; gelwir hwy yn Lakota.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | llwyth, grŵp ethnig |
---|---|
Math | pobloedd brodorol yr Amerig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Heddiw mae tua 150,000 o Sioux, gyda gwarchodfeydd iddynt yng Ngogledd a De Dakota, Minnesota, Nebraska, a Manitoba a de Saskatchewan yng Nghanada.