Sidydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Sidydd (Saesneg: Zodiac; Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos) yn gylch o 12 rhaniad 30° ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn dros gyfnod o flwyddyn. Mae llwybr y lloer a'r planedau'n agos iawn i'r eliptig sy'n ymestyn 8-9° i'r gogledd neu'r de ac a fesurir mewn lledred seryddol.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Yn cynnwys ...
Enghraifft o'r canlynol | arteffact diwylliannol, grŵp, dwsin |
---|---|
Yn cynnwys | Yr Hwrdd, Y Tarw, Y Gefeilliaid, Y Cranc, Y Llew, Y Forwyn, Y Fantol, Y Sgorpion, Y Saethydd, Yr Afr, Y Dyfrwr, Y Pysgod |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gelwir y rhaniadau hyn yn ddeuddeng "Arwydd". Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol, bellach.