Sebastián Lerdo de Tejada
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Mecsicanaidd oedd Sebastián Lerdo de Tejada (24 Ebrill 1823 – 21 Ebrill 1889) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1872 i 1876.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Sebastián Lerdo de Tejada | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ebrill 1823, 1827 Xalapa |
Bu farw | 21 Ebrill 1889, 1889 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico, Secretary of Foreign Affairs of Mexico |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
Cau
Ganwyd yn Jalapa yn nhalaith Veracruz i deulu tlawd, a bu farw ei rieni pan oedd yn fachgen. Llwyddodd i dderbyn addysg a daeth yn athro cyfreitheg ac yn rheithor Coleg San Ildefonso yn Ninas Mecsico. Ymunodd â'r Arlywydd Benito Juárez yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn y 1860au.[1]
Daeth Lerdo yn Arlywydd Mecsico yn sgil marwolaeth Juárez yn 1872. Cafodd ei ddymchwel gan Porfirio Díaz mewn gwrthryfel yn 1876, ac aeth yn alltud. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 65 oed.[1]