San Cristóbal de La Laguna
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas ar ynys Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd yw San Cristóbal de La Laguna, weithiau La Laguna. Saif yng ngogledd yr ynys, ac mae'n than o ardal ddinesig y brifddinas, Santa Cruz de Tenerife. Roedd y boblogaeth yn 137,314 yn 2004.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | San Cristóbal de La Laguna |
Poblogaeth | 159,034 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Fernando Clavijo Batlle |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | São Paulo, Old Havana, Las Palmas de Gran Canaria |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Santa Cruz de Tenerife |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 102.06 km² |
Uwch y môr | 543 ±1 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Santa Cruz de Tenerife, Tegueste, Tacoronte, Tenerife, El Rosario, Tenerife |
Cyfesurynnau | 28.4853°N 16.3167°W |
Cod post | 38200–38299 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of San Cristóbal de La Laguna |
Pennaeth y Llywodraeth | Fernando Clavijo Batlle |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Cau
Sefydlwyd y ddinas rhwng 1496 a 1497 gan Alonso Fernández de Lugo, a bu'n brifddinas yr ynys yn y cyfnod cynnar. Ceir rhywfaint o ddiwydiant yma, ac mae twristiaeth yn bwysig o gwmpas yr arfordir. Prifysgol La Laguna yw prifysgol hynaf yr Ynysoedd Dedwydd, yn dyddio o 1701. Ymhlith yr adeiladau nodedig mae'r eglwys gadeiriol. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999