Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dechreuodd Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948 yn ffurfiol ar ddiwedd y Mandad Prydeinig ar gyfer Palestina, ar hanner nos, 14 Mai 1948. Hwn oedd ail ran Rhyfel Palesteina 1947–1949; cyhoeddwyd Datganiad Annibyniaeth Israel yn gynharach y diwrnod hwnnw, ac aeth clymblaid filwrol o wledydd Arabaidd i mewn i diriogaeth Palestina Prydain fore wedyn, y 15fed o Fai.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 1940s |
Rhan o | 1948 Palestine War |
Dechreuwyd | 15 Mai 1948 |
Daeth i ben | 10 Mawrth 1949 |
Rhagflaenwyd gan | declaration of Israeli independence, 1947–1948 Civil War in Mandatory Palestine |
Lleoliad | Sinai, Southern Lebanon, Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd marwolaethau cyntaf rhyfel Palestina 1947–1949 ar 30 Tachwedd 1947 yn ystod cynllwyn o ddau fws yn cludo Iddewon.[1] Bu tensiwn a gwrthdaro rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon a lluoedd Prydain ers Datganiad Balfour 1917 a chreu Mandad Prydeinig Prydain ym 1920. 'Doedd polisïau Prydain yn anfodlon dim yn apelio at yr Arabiaid na'r Iddewon. Datblygodd y gwrthwynebiad yn wrthryfel Arabaidd 1936–1939 ym Mhalestina, tra datblygodd y gwrthiant Iddewig yn wrthryfel Iddewig 1944-1947 ym Mhalestina. Ym 1947, ffrwydrodd y tensiynau parhaus hyn yn rhyfel cartref yn dilyn mabwysiadu Cynllun Rhaniad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Palestina ar 29 Tachwedd 1947, a oedd yn bwriadu rhannu Palestina yn wladwriaeth sofran, Arabaidd, a gwladwriaeth Iddewig, a Chyfundrefn Ryngwladol Arbennig a fyddai'n cwmpasu dinasoedd Jerwsalem a Bethlehem.
Ar 15 Mai 1948, trawsnewidiodd y rhyfel cartref yn wrthdaro rhwng Israel a’r taleithiau Arabaidd yn dilyn Datganiad Annibyniaeth Israel y diwrnod cynt. Teithiodd byddinoedd yr Aifft, Trawsiorddonen, Syria, ac Irac i mewn i Balesteina.[2] Cymerodd y lluoedd reolaeth ar yr ardaloedd Arabaidd ac ymosod ar unwaith ar luoedd Israel.[3][4] Digwyddodd y 10 mis o ymladd yn bennaf ar diriogaeth y Mandad Prydeinig ac ym Mhenrhyn Sinai a de Libanus, gydag ambell gyfnod o gadoediad.[5]
O ganlyniad i'r rhyfel, rheolodd Talaith Israel yr ardal yr oedd Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181 wedi'i hargymell ar gyfer y wladwriaeth Iddewig arfaethedig, yn ogystal â bron i 60% o arwynebedd y wladwriaeth Arabaidd a gynigiwyd gan Gynllun Rhaniad 1947,[6] gan gynnwys ardal Jaffa, Lydda, a Ramle, Galilea, rhai rhannau o'r Negev, llain lydan ar hyd ffordd Tel Aviv - Jerwsalem, Gorllewin Jerwsalem, a rhai tiriogaethau yn y Lan Orllewinol. Cymerodd Trawsiorddonen reolaeth ar weddill hen fandad Prydain, a atodwyd ganddo, a chymerodd yr Aifft reolaeth ar Llain Gaza. Yng Nghynhadledd Jericho ar 1 Rhagfyr 1948, galwodd 2,000 o gynrychiolwyr Palestina am uno Palestina a Thrawsiorddonen fel cam tuag at undod Arabaidd llawn.[7]
Sbardunodd y gwrthdaro newid demograffig sylweddol ledled y Dwyrain Canol. Ffodd tua 700,000 o Arabiaid Palestina o'u cartrefi yn yr ardal a ddaeth wedyn yn Israel, a daethant yn ffoaduriaid Palesteinaidd yn yr hyn y maent yn cyfeirio ato fel y Nakba ("y trychineb"). Yn y tair blynedd yn dilyn y rhyfel, ymfudodd tua 700,000 o Iddewon i Israel, symudiad tebyg i'r mewnlifiad i Gymru o Loegr.[8] Symudodd tua 260,000 o Iddewon i Israel o'r byd Arabaidd yn ystod ac yn syth ar ôl y rhyfel.[9]
Ar 29 Tachwedd 1947, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn argymell mabwysiadu a gweithredu cynllun i rannu Mandad Prydain Palestina yn ddwy wladwriaeth, un Arabaidd ac un Iddewig, a Dinas Jerwsalem yn cael ei rhannu.[10]
Derbyniwyd penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol ar Raniad â llawenydd mawr yn y cymunedau Iddewig a dicter eang yn y byd Arabaidd. Ym Mhalestina, cafwyd gwrthdystiadau a gwrthwynebiad chwyrn. Ymataliodd y Prydeinwyr rhag gorymateb wrth i densiynau droi'n wrthdaro lefel isel a esgynnodd yn gyflym i ryfel cartref ar raddfa lawn.[11][12][13][14][15][16]
O fis Ionawr ymlaen, daeth gweithrediadau yn fwyfwy militaraidd, gydag ymyrraeth nifer o gatrawdau Byddin Rhyddid Arabaidd y tu mewn i Balesteina, pob un yn weithgar mewn amrywiaeth o sectorau gwahanol o amgylch y gwahanol drefi arfordirol gan gynnwys Galilea a Samaria.[17] Daeth Abd al-Qadir al-Husayni o'r Aifft gyda channoedd o ddynion Byddin y Rhyfel Sanctaidd. Ar ôl recriwtio ychydig filoedd o wirfoddolwyr, trefnodd al-Husayni blocâd y 100,000 o drigolion Iddewig yn Jerwsalem.[18] Er mwyn gwrthsefyll hyn, ceisiodd awdurdodau Yishuv gyflenwi confois o hyd at 100 o gerbydau arfog i'r ddinas, ond daeth yr ymgyrch yn fwy a mwy anymarferol wrth i nifer y rhai a anafwyd yn y confois gynyddu.
Erbyn mis Mawrth, roedd tacteg Al-Hussayni wedi talu ar ei ganfed. Roedd bron pob un o gerbydau arfog Haganah wedi cael eu dinistrio, roedd y blocâd ar waith yn llawn, a lladdwyd cannoedd o aelodau Haganah.[19]
Roedd y boblogaeth Iddewig wedi derbyn gorchmynion llym yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddal eu tir ym mhobman ar bob cyfrif.[20] Gadawodd hyd at 100,000 o Arabiaid dinesig yn Haifa, Jaffa a Jerwsalem, neu ardaloedd lle roedd yr Iddewon yn y mwyafrif.[21]
Achosodd y sefyllfa hon i’r Unol Daleithiau dynnu ei chefnogaeth i’r Cynllun Rhaniad yn ôl, gan annog y Gynghrair Arabaidd i gredu y gallai Arabiaid Palestina, a atgyfnerthwyd gan Fyddin Rhyddhad Arabaidd, roi diwedd ar y cynllun. Penderfynodd Prydain ar y llaw arall, ar 7 Chwefror 1948 i gefnogi Trawsiorddonen yn eu gweithred i atodi y rhan Arabaidd o Balestina.[22]
Roedd yn rhaid i bob dyn a dynes Iddewig yn y wlad dderbyn hyfforddiant milwrol. Diolch i arian a godwyd gan Golda Meir gan gydymdeimlwyr yn yr Unol Daleithiau, a phenderfyniad Stalin i gefnogi achos Seionaidd, llwyddodd cynrychiolwyr Iddewig Palestina i arwyddo contractau arfogi pwysig iawn yn y Dwyrain.