Rhestr o aelodau Cymanfa Westminster
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y clerigwyr a gymerodd ran yn y Gymanfa a luniodd Gyffes Ffydd Westminster yw Diwinyddion Westminster. Creodd gorchymyn cychwynnol y Senedd Faith Gymanfa Westminster drwy benodi 121 o weinidogion Eglwys Loegr i'r Gymanfa, yn ogystal â darparu lle i 30 o aseswyr lleyg (10 bonheddwr ac 20 gwerinwr) fod yn rhan ohoni, gyda chwe chomisiynwr i gynrychioli Eglwys yr Alban hefyd. O'r 121 o ddiwinyddion gwreiddiol, rhyw 24 na fynychodd y Gymanfa erioed. Yn dilyn hyn, ychwanegodd y Senedd 21 gweinidog arall i'r Gymanfa, sef y "diwinyddion atchwanegol", i gymryd lle'r rhai nad oeddent wedi mynychu neu a oedd wedi marw neu fynd yn sâl ers galw'r Gymanfa.
Dalier sylw: Yn y rhestr isod, Brenhinwyr na chymerasant eu seddi yn y Gymanfa yw'r mwyafrif o aelodau'r Gymanfa heb ddyddiadau wrth eu henwau. Roedd hyn oherwydd i'r Brenin Siarl I siarsio pob deiliad teyrngar iddo i beidio ag ymuno â Chymanfa Westminster.