Rhestr Siroedd a Dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o siroedd a dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg ynddynt a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2011. Nid oedd y cyfrifiad yn cyfri'r siaradwyr a oedd yn byw y tu allan i Gymru.
Cynhyrchodd y cyfrifiad ddadansoddiad manwl o'r medrau iaith, gan nodi faint o bobl oedd yn:
- Deall Cymraeg llafar (heb fedrau eraill).
- Siarad Cymraeg, ond yn methu darllen nag ysgrifennu Cymraeg.
- Siarad ac yn darllen Cymraeg ond yn methu ysgrifennu Cymraeg.
- Siarad, ysgrifennu ac yn darllen Cymraeg.
- Cyfuniad o fedrau eraill.
- Dim gwybodaeth o'r iaith.
Yn ogystal, mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol diweddaraf (Mehefin 2019), a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn awgrymu bod gan 29.8% o Gymru y gallu i siarad Cymraeg.[1]