Rhedynach teneuwe
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tyf Rhedynach teneuwe neu redynach teneuwe Tunbridge (Hymenophyllum tunbrigense) ar greigiau cysgodol gwlybion, ac weithiau ar foncyffion coed. Mae'n perthyn i'r genws Hymenophyllum, genws o redyn yn nheulu Hymenophyllaceae. Fe'i ceir yn bennaf yng Ngogledd-Orllewin Cymru, ond hefyd mewn ambell le yn Sir Benfro ac yma ac acw trwy Dde-Cymru. O fewn Ynysoedd Prydain tyf yn bennaf yn y gorllewin. Yn Ewrop mae iddi ddosbarthiad sy'n dilyn yr Iwerydd, gyda phoblogaethau bychain yn yr Almaen, Ynys Cors a chanolbarth yr Eidal. Tyf hefyd o gwmpas y byd: Cenia, De Affrica, Twrci, De Carolina, Canolbarth America, Awstralia a Seland Newydd.
Rhedynach teneuwe | |
---|---|
Rhydynach teneuwe o Goed Cae Dafydd 25 Rhagfyr 1990 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ffylwm: | Pteridophyta |
Dosbarth: | Polypodiopsida (neu Pteridopsida) |
Urdd: | Hymenophyllales |
Teulu: | Hymenophyllaceae |
Genws: | Hymenophyllum |
Rhywogaeth: | H. tunbrigense |
Enw deuenwol | |
Hymenophyllum tunbrigense (L.) Sm. | |
Mae iddi ffrondiau (2.5 - 11.5 cm o hyd), mae'n wyrddlas a bron yn dryloyw. Dim ond un redynen arall yng Nghymru sy'n debyg iddi, sef Rhedynach teneuwe Wilson (Hymenophyllum wilsonii). Y nodwedd amlycaf er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy rywogaeth yw gwefysau danheddog ar frig yr Indusium, sy'n amlwg iawn o dan chwydd wydr.