Pensaernïaeth Gothig
arddull pensaernïol canoloesol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arddull canoloesol o bensaernïaeth yw Gothig. Datblygodd yn Ffrainc yn y 12g o'r arddull Romanesg (a elwir yn Normanaidd yn Ynysoedd Prydain) ac yna lledodd drwy Ewrop gyfan. Tra'r oedd pensaernïaeth Romanesg yn seiliedig ar ddulliau adeiladu'r Rhufeiniaid, roedd Gothig yn seiliedig ar dechnegau newydd, yn bennaf y bwa pwyntiog. Drwy ddefnyddio bwâu pwyntiog roedd yn bosib adeiladu ffenestri llawer mwy nag o'r blaen ac mae ffenestri lliw trawiadol yn nodweddiadol o eglwysi'r cyfnod.