Penrhyn Llŷn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gorynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Penrhyn Llŷn neu Pen Llŷn. Mae'n rhan o Wynedd. Mae'n ymestyn fel braich allan i'r môr tua gogledd Bae Ceredigion. Yr Eifl yw'r copa uchaf a'r prif drefi yw Aberdaron, Abersoch, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Creadigaeth bur diweddar yw'r term ei hun.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 52.9092°N 4.4614°W |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
Manylion | |
Cau
- Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu) a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae'r penrhyn yn cael ei adnabod fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir nifer o draethau braf, yn arbennig ar yr arfordir deheuol, baeau creigiog ar hyd arfordir y gogledd, a bryniau gosgeiddig fel Yr Eifl a Carn Fadryn.
Er gwaethaf mewnlifiad o siaradwyr Saesneg i leoedd fel Abersoch, erys Llŷn yn un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Gymraeg.