Pedrog
sant a thywysog Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Pedrog (Cernyweg: Petroc[k]; Llydaweg: Pereg) yn sant o Gymro sy'n nawddsant Cernyw ar y cyd â Piran. Ar 4 Mehefin mae ei ŵyl. Defnyddir baner Petroc fel baner Dyfnaint (yn atgof o'r hen dywysogaeth Frythonaidd cyn cyfnod Cernyw). Mae 5 eglwys i Petroc yng Nghernyw, 8 yn Llydaw a 17 yn Nyfnaint.
Pedrog | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Bu farw | 4 Mehefin 564 Lannwedhenek |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 4 Mehefin |
Tad | Glywys |
- Am y bardd "Pedrog", gweler John Owen Williams (Pedrog).
Cedwir ei enw yn Llanbedrog (Llŷn), Y Ferwig Ceredigion a Llanbedrog, Sir Benfro.
Roedd Petrocus neu Petroc neu Pedrog yn sant o'r 6g a aeth o Gymru i Iwerddon i astudio. Wedi ymweld â Rhufain aeth ymlaen i sefydlu mynachdy yng Nghernyw yn Padstow. (Petrockstow - Preswyl Petroc) Tua diwedd ei oes aeth i gell unig ar Bodmin Moor. Yn ôl William of Worcester bu farw ar 4ydd Mehefin 564. Hen enw Bodmin oedd Bosvenegh (Preswyl Mynachod). Cadwodd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, cymerwyd nhw i Abaty St Mevennus yn Llydaw tan i'r brenin Henry II mynnu eu dychwelyd.