Parc Cenedlaethol Doñana
From Wikipedia, the free encyclopedia
Saif Parc Cenedlaethol Doñana (Sbaeneg:Parque nacional de Doñana) yn ne-orllewin Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, gerllaw aber Afon Guadalquivir. Mae'r rhan fwyaf yn nhalaith Huelva, ac ychydig o'r parc yn nhalaith Sevilla. Mae arwynebedd y parc yn 53,709 hectar. Yn 1994 fe'i cyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Math | national park, site of community importance, Ardal Gadwraeth Arbennig, Special Protection Area, European Diploma of Protected Areas, biosphere reserve, Ramsar site, ardal gadwriaethol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ana Gómez de Silva y de Mendoza |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Network of National Parks of Spain, Natura 2000, Natura 2000 in Spain |
Lleoliad | Talaith Huelva, Talaith Seville, Talaith Cádiz |
Sir | Andalucía |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 54,252 ha, 53,303.56529 ha |
Gerllaw | Gwlff Cadiz, Afon Guadalquivir |
Cyfesurynnau | 37.02°N 6.44°W |
Rheolir gan | Spanish Ministry of the Environment, Andalucía |
Statws treftadaeth | Ramsar site, Red List of Endangered Heritage item, Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Ystyrir y parc yn un o warchodfeydd natur pwysicaf Ewrop. Yn y gaeaf, mae tua 200,000 o adar dŵr ar y gwlybdiroedd sy'n rhan helaeth o'r parc. Ymhlith yr amrywiaeth o fywyd gwyllt mae 20 rhywogaeth o bysgodyn, 37 rhywogaeth o famal a 360 rhywogaeth o aderyn, gyda 127 ohonynt yn nythu yno.
Credir fod enw'r parc yn dod o "Doña Ana", sef Doña Ana de Mendoza y Silva, gwraig seithfed Dug Medina Sidonia, Don Alonso Pérez de Guzmán, oedd yn berchennog y tiroedd yma.