Paraffîn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymysgedd o hydrogarbonau a geir trwy ddistyllu olew crai yw paraffîn (enw amgen: cerosîn). Mae'n berwi ar dymheredd o rwng 150-300 gradd selsiws ac mae ganddo dwysedd cymharol o 0.78-0.83, yn dibynnu ar ei buredd. Defnyddir paraffîn fel tanwydd ar gyfer y cartref ac mewn rhai peiriannau.