Pôs y pedwar lliw
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn mathemateg, dywed y ddamcaniaeth pedwar lliw (neu theori'r map pedwar lliw): "Mewn map, nid oes angen mwy na phedwar lliw gwahanol i liwio rhanbarthau'r map, fel nad oes dwy ranbarth cyfagos o'r un lliw." Roedd y pôs pedwar lliw, a'r pôs y pum lliw o'i flaen, yn sialens i fathemategwyr, cyn i'r theori gael ei brofi yn 1976 gan Kenneth Appel a Wolfgang Haken.[1]
Termau:
- Mae "map" yn cyfeirio at blân dau-ddimensiwn, wedi'i rannu gan linellau yn nifer o ranbarthau (neu "wledydd").
- Mae "cyfagos" yn golygu bod dwy ranbarth yn rhannu ffin (llinell; cromlin) cyffredin, ond nid mewn cornel, lle mae tair neu fwy o ranbarthau yn cwrdd.[2]
Canlyniad y ddamcaniaeth yw'r datganiad canlynol, syml: "Nid oes fyth angen mwy na 4 lliw i liwio unrhyw fap".[2]