Owain Glyn Dŵr
Tywysog Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Owain ap Gruffydd (c. 1354 – c. 1415) a adnabyddir yn gyffredin heddiw fel Owain Glyn Dŵr, neu Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy[1] gynt) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw "Y Mab Darogan".
Owain Glyn Dŵr | |
---|---|
Ganwyd | 1359 Castell Dolwyddelan |
Bu farw | c. 1415 Tywysogaeth Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol, tirddaliadaeth, gweinyddwr |
Cysylltir gyda | Bwrdd y Tri Arglwydd, Y Mab Darogan |
Tad | Gruffudd Fychan II |
Mam | Elen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owain ap Maredudd |
Priod | Margaret Hanmer |
Plant | Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, Gruffudd ab Owain Glyndŵr, Catrin ferch Owain Glyn Dŵr, Gwenllian ferch Owain Glyndŵr, Alys ferch Owain Glyndŵr, Ieuan ab Owain Glyndŵr, Sioned ferch Owain |
Llinach | Llinach Mathrafal |
Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth ar ochr ei fam. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.
Yn 1400 cododd helynt ynghylch tir rhwng Owain Glyn Dŵr a'r Arglwydd Grey o Ruthun, barwn pwerus o Loegr a oedd yn byw gerllaw. Pan ochrodd Harri IV â Grey, ymosododd Glyn Dŵr a’i ddilynwyr ar dref Rhuthun a threfi Cymreig eraill ger y ffin â Lloegr, gan achosi difrod mawr. Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi) 1400 llosgodd Owain dref Rhuthun i'r llawr, heblaw'r castell. Erbyn diwedd 1401 roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cefnogi’r gwrthryfel. Rhwng 1401 ac 1404 ymledodd y gwrthryfel ar draws Cymru a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Cipiwyd cestyll Harlech ac Aberystwyth a threchwyd byddinoedd Lloegr yng Nghwm Hyddgen a Bryn Glas yng nghanolbarth Cymru. Gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo drechu’r Saeson mewn brwydr fawr, cynhaliodd Glyn Dŵr, a oedd yn galw ei hun yn Dywysog Cymru, senedd arbennig ym Machynlleth i godi arian ar gyfer yr achos (y senedd gyntaf o’i bath yng Nghymru). Yn y Senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth roedd cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban a Sbaen. Ffurfiodd gynghreiriau â Dug Northumberland ac Edmund Mortimer, gelynion Harri IV, a lluniodd gynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.
Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond erbyn 1405, fodd bynnag, roedd y llanw wedi dechrau troi a threchwyd byddinoedd Glyn Dŵr yn y Grysmwnt a Brynbuga. Ni ddaeth cymorth gan y Ffrancwyr a’r Albanwyr, ac ildiodd dynion Morgannwg, Gŵyr, Tywi, Ceredigion ac Ynys Môn i frenin Lloegr. Erbyn 1408 roedd cadarnleoedd pwysig Harlech ac Aberystwyth wedi eu hadennill a daeth y gwrthryfel i ben. Cafwyd rhai cyrchoedd ar ôl hyn ond erbyn 1415 daeth y gwrthryfel i ben, a diflannodd Glyn Dŵr. Roedd llawer o ddifrod wedi ei wneud a nifer fawr wedi marw, a daeth pethau’n anodd pan gyflwynwyd cyfreithiau gwrth-Gymreig gan Harri IV. I rai teuluoedd cyfoethog, daeth y gwrthryfel â’u hawdurdod i ben. Newidiodd eraill eu teyrngarwch i Harri IV ac aeth llawer o’r dynion a oedd wedi ymladd ochr yn ochr â Glyn Dŵr ymlaen i ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Agincourt (1415). Ond yn ystod y gwrthryfel, roedd y Cymry wedi uno o dan arweinydd cenedlaethol gan blannu gweledigaeth o Gymru annibynnol.
Mae Owain Glyn Dŵr yn sefyll fel unigolyn pwysig yn hanes Cymru, nid yn unig fel un oedd yn cael ei weld fel arweinydd cenedlaethol ond hefyd fel gwleidydd a oedd yn gweld rôl i Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd. Yn Llythyr Pennal a ysgrifennwyd yn 1406 mae’n ceisio llunio cysylltiadau gyda Ffrainc drwy ddangos cefnogaeth i Bab Avignon, yn hytrach na Phab Rhufain a gefnogwyd gan Loegr. Yn y llythyr mae Glyn Dŵr hefyd yn amlinellu ei syniad am sut byddai’n creu Cymru annibynnol drwy sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru (yn y de a’r gogledd), Eglwys annibynnol i Gymru gyda'i chronfa arian ei hunan a Chymry Cymraeg yn cael eu penodi i swyddi uchel yn yr Eglwys.
Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes neb yn sicr beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o arwyr pwysicaf y genedl ac mae cerflun ohono yn oriel yr arwyr cenedlaethol Neuadd y Ddinas, Caerdydd.[2][3]
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Datblygu Rhyfela | |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Owain Glyndŵr (Bywgraffiadur) | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |