Novial
From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith artiffisial a ddyfeisiwyd yn 1928 gan yr Athro Otto Jespersen, ieithydd o Ddenmarc, yw Novial (nov- "newydd" + international auxiliary language). Dyfeisiodd Novial i fod yn iaith gynorthwyol ryngwladol i gynorthwyo cysylltiadau a chyfeillgarwch rhyngwladol heb ddisodli ieithoedd brodorol. Mae geirfa'r iaith yn seiliedig ar yr ieithoedd Germanaidd a Romáwns, ac mae Saesneg yn dylanwadu ar y gramadeg. Darparwyd cyflwyniad cyntaf i Novial mewn llyfr gan Jespersen, An international language, yn 1928, gyda diweddariad yn ei eiriadur Novial Lexike ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ar ôl marwolaeth Jespersen yn 1943 prin bod sôn am yr iaith - tan y 1990au pan ailddarganfu llawer o bobl ieithoedd artiffisial drwy'r rhyngrwyd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | Iaith artiffisial, iaith gynorthwyol ryngwladol, Esperantido |
---|---|
Math | iaith gynorthwyol ryngwladol |
Crëwr | Otto Jespersen |
Dechrau/Sefydlu | 1928 |
Enw brodorol | Novial |
cod ISO 639-3 | nov |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau