Neil Gray
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Neil Gray (ganwyd 16 Mawrth 1986) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Airdrie a Shotts; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Neil Gray | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2015 | |
Geni | (1986-03-16) 16 Mawrth 1986 (36 oed) Kirkwall, Ynysoedd Erch, Yr Alban |
---|---|
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Airdrie a Shotts (etholaeth seneddol) |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Stirling |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Fe'i magwyd yn Kirkwall, Ynysoedd Erch. Graddiodd ym Mhrifysgol Stirling ble astudiodd y Gyfraith a Newyddiaduraeth ac wedi graddio, gweithiodd fel cynhyrchydd a gohebydd BBC Radio'r Ynysoedd Erch rhwng 2003 hyd 2008. Wedi hynny, bu'n swyddog y wasg ac ymchwilydd i'r SNP yn Senedd yr Alban, cyn cael ei benodi'n rheolwr swyddfa i Alex Neil MSP - a bu yno hyd nes y cafodd ei ethol yn AS yn 2015.
Mae'n athletwr cryf, a chynrychiolodd yr Alban mewn cystadleuthau rhedeg 400m tan iddo niweidio'i ben-glin yn ddifrifol.