Marguerite de Navarre
brenhines gydweddog Nafarroa (1492–1549) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Margueritte de Navarre yw enw mwyaf cyfarwydd Marguerite d'Angoulême (11 Ebrill 1492 – 21 Rhagfyr 1549), a elwir hefyd Marguerite d'Alençon, Duchesse d'Alençon, chwaer Ffransis I, brenin Ffrainc (1494-1597), gwraig yn gyntaf i Ddug Alençon ac ar ôl marwolaeth y dug yn wraig i Henri d'Albret, brenin Navarre; trwy'r cysylltiad olaf mae hi'n hynafes i linach y brenhinoedd Bourbon. Roedd hi'n llenores Ffrangeg, yn awdur yr Heptaméron a gweithiau eraill.
Marguerite de Navarre | |
---|---|
Ganwyd | Marguerite de Valois-Angoulême 11 Ebrill 1492 Angoulême |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1549 Odos |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, perchennog salon, dramodydd, brenin |
Swydd | royal consort |
Adnabyddus am | Heptaméron |
Mudiad | Dyneiddiaeth |
Tad | Siarl I |
Mam | Louise o Safwy |
Priod | Henri II of Navarre, Charles IV, Duke of Alençon |
Plant | Jeanne D'albret, John of Navarre |
Llinach | House of Valois |
llofnod | |
Roedd hi'n ddynes o gymeriad uchel, deallus, eangfrydig, hoff o fywyd ac yn credu mewn rhyddid ysbrydol ac eto ar yr un pryd yn ddefosiynol iawn yn ei chrefydd. Dysgodd Ladin, Eidaleg a Sbaeneg ac astudiodd Hebraeg hefyd. Edmygai waith Plato a hyrwyddodd gyfieithiadau o'i Ddeialogau. Cefnogai Évangélisme a rhoddodd nawdd yn ei llys i wŷr goleuedig a erlidid gan y diwinyddion uniongred, yn eu plith Lefèvre d'Étaples, y bardd Clément Marot (1496-1594) a'r ysgolhaig clasurol Bonaventure Des Périers (m. c. 1544); amddiffynai hefyd Jean Calvin (1509-1564).