Maison Carrée
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ystyrir y Maison Carrée yn ninas Nîmes, Ffrainc, yn un o'r temlau Rhufeinig gorau sydd wedi goroesi. Saif yn y place de la Maison-Carrée yng nghanol y ddinas. Fe'i codwyd tua'r flwyddyn 19 CC, neu ychydig yn gynt, gan Marcus Vipsanius Agrippa, un o noddwyr amlycaf cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, a fu'n gyfrifol hefyd am adeiladau'r Pantheon yn Rhufain. Cysegrwyd y deml i'w ddau fab, Caius Caesar a Lucius Caesar, etifeddion mabwysiedig yr ymerodr Augustus, a fu farw yn ifanc ill dau.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Nemausus |
Sir | Nîmes |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 43.83819°N 4.35611°E |
Hyd | 28 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig, Corinthaidd |
Perchnogaeth | City of Nîmes |
Statws treftadaeth | monument historique classé, Safle Treftadaeth y Byd |
Sefydlwydwyd gan | Marcus Vipsanius Agrippa |
Manylion | |
Cau
Ystyr arferol y gair Ffrangeg carrée yw "(o ffurf) sgwâr", ond mae'r hen ystyr yn cynnwys yr ystyr "hirsgwar" hefyd a dyna a olygir yma. Dynodwyd y Maison Carrée yn heneb yn 1840. Heddiw mae'r deml yn amgueddfa.