Môr-hesgen
rhywogaeth o blanhigyn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol monocotaidd a math o wair yw Môr-hesgen sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Poaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ammophila arenaria, yr enw Llydaweg yw Morhesk a'r enw Saesneg yw Marram.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Moresg, Corswellt y Tywod, Glaswellt y Tywod, Merydd, Morhesg, Morhesgen a Myrydd.
Ffeithiau sydyn Ammophila arenaria, Dosbarthiad gwyddonol ...
Ammophila arenaria | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Poales |
Teulu: | Poaceae |
Genws: | Ammophila (Poaceae) |
Rhywogaeth: | A. arenaria |
Enw deuenwol | |
Ammophila arenaria Carolus Linnaeus | |
Cyfystyron | |
Ammophila australis |
Cau
Mae'r moresg yn gyfyngedig i barthau arbennig o arfordiroedd tywodlyd lle mae'r tywod yn agored i gael ei chwythu gan gwynt. Hwn sydd bennaf gyfrifol am greu twyni tywod arfordirol (nid y rhai mewn diffaethdir). Trwy ei blannu'n strategol, defnyddiwyd y planhigyn trwy'r canrifoedd i reoli erydiad arfordirol.