Luigi Pirandello
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor a dramodydd Eidalaidd oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867 – Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw Sei personaggi in cerca d'autore, 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.
Luigi Pirandello | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1867 Agrigento |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1936 o niwmonia Rhufain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, sgriptiwr, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | L'Esclusa, The Turn, Ma non è una cosa seria, One, No one and One Hundred Thousand, Six Characters in Search of an Author, Novels for a year, Il fu Mattia Pascal, Clothing The Naked, Henry IV |
Priod | Maria Antonietta Portulano |
Plant | Fausto Pirandello, Stefano Pirandello |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel |
Gwefan | https://pirandelloweb.com |
llofnod | |
Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr Elegie Boreali tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth.