Llên Lloegr yn y 19eg ganrif
llenyddiaeth Saesneg yn y 19g / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cychwynnodd llên Lloegr yn y 19eg ganrif fel ymestyniad o'r Rhamantiaeth a ddygwyd i'r amlwg yn niwedd y ganrif gynt. Bu'r nofel yn hynod o boblogaidd, o gyfnod y Rhaglywiaeth (1811–20) hyd at ddiwedd y ganrif. Yn ystod oes Fictoria (1837–1901), wynebodd crefydd yn Lloegr amheuaeth ac ansicrwydd oherwydd y darganfyddiadau gwyddonol a berodd i Gristnogion gwestiynau eu ffydd. Cafwyd trawsnewidiadau cymdeithasol enfawr o ganlyniad i ddiwydiannaeth, cynnydd technolegol, trefoli, a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, ac adlewyrchir yr amryw ymatebion i'r newidiadau hyn yn llenyddiaeth y cyfnod.