Llong hwylio
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llong hwylio yw’r term a ddefnyddir am long sy’n defnyddio hwyliau yn hytrach na pheiriant neu rwyfau i’w symud. Dylid nodi fod y term “llong” hefyd ag ystyr arbennig yn ystod oes aur llongau hwyliau, pan oedd yn cael ei ddefnyddio am un math arbennig ar long.
Enghraifft o'r canlynol | math o long |
---|---|
Math | llong, wind-powered vehicle |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae defnyddio hwyliau yn mynd yn ôl o leiaf i gyfnod yr Hen Aifft. Yn yr hen fyd roedd yr hwyliau yn aml yn cael eu defnyddio ar y cyd a rhwyfau, er enghraifft yn y trireme Groegaidd. Roedd hyn yn nodweddiadaol o longau rhyfel, tra’r oedd llongau masnach yn tueddu I ddefnyddio hwyliau yn unig.
Y 19g oedd oes aur y llongau hwyliau ar gyfer masnach. Tua chanol y ganrif dechreuwyd rhoi periant ager bychan yn rhai ohonynt, i’w defnyddio pan nad oedd gwynt; roedd y Royal Charter yn esiampl o’r rhain. Yn raddol daeth llongau ager y fwy effeithiol ac yn rhatach, ac ni fu fawr o adeiladu llongau hwyliau newydd yn y gorllewin ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychydig o longau hwyliau sy’n cael eu defnyddio yn y gorllewin bellach, weithiau ar gyfer hyfforddi llongwyr, er fod nifer fawr o gychod hwylio yn cael eu defnyddio ar gyfer pleser. Mae mwy o ddefnydd arnynt yn rhai o wledydd y dwyrain, er enghraifft mae nifer yn parhau i gael eu defnyddio i gludo nwyddau rhwng ynysoedd Indonesia.