Llenyddiaeth ffuglen drosedd Saesneg
llenyddiaeth o genre ffuglen drosedd a ysgrifennwyd yn yr iaith Saesneg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gellir olrhain llenyddiaeth ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg yn ôl i hanner cyntaf y 19g. Priodolir i'r llenor Americanaidd Edgar Allan Poe ysgrifennu'r stori dditectif gyntaf, "The Murders in the Rue Morgue", ym 1841. Bu ffuglen drosedd gynnar yn gysylltiedig â dirgelwch, genre arall a arloeswyd gan Poe. Ym 1887, cyflwynodd Arthur Conan Doyle un o dditectifs ffuglennol enwocaf y byd, Sherlock Holmes, yn ei nofel A Study in Scarlet. Byddai Doyle yn ysgrifennu nofelau a straeon byrion am anturiaethau Holmes a'i gyfaill John Watson am 50 mlynedd, a daethant yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y cyfresi o straeon a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn The Strand. Rhoddai Doyle bwyslais ar ddull didwythol Holmes o ddatrys dirgelion a chanfod troseddwyr. Ymdrechai nifer o awduron i ddynwared llwyddiant y straeon Sherlock Holmes yn ystod yr Oes Edwardaidd.
Enghraifft o'r canlynol | ffuglen drosedd, llenyddiaeth ffuglen, llenyddiaeth Saesneg |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Prif bwnc | Trosedd |
Yn y 1920au cychwynnodd "Oes Aur" ffuglen dditectif, y nofel ddirgelwch am lofruddiaeth neu nofel ddatgelu (whodunit), a lewyrchai ym Mhrydain yn bennaf. Blodeuai sawl nofelydd benywaidd yn y cyfnod hyn, gan gynnwys Agatha Christie, Dorothy L. Sayers, Margery Allingham, a Ngaio Marsh, a elwir "Breninesau Trosedd". Datblygodd grefft reolaidd i'r ffuglen hon, gyda phlotiau cymhleth a arweinia at ddiweddglo clyfar a boddhaol, ditectifs craff megis Hercule Poirot a Miss Marple, pwyslais ar gliwiau a phosau fel bo modd i'r darllenydd cael pen llinyn y dirgelwch ei hunan, a diffyg trais. Er gwaethaf pwnc llofruddiaeth, digwydda trwch y stori fel arfer mewn awyrgylch digynnwrf, os nad cysurus, gyda chymeriadau o'r dosbarthiadau canol ac uchaf. Bu'r fath straeon yn hynod o boblogaidd ac enillodd yr awduron hyn lwyddiant aruthrol. Fodd bynnag, trodd nifer o feirniaid a llenorion eraill yn erbyn sicrwydd ac ystrydebau'r genre erbyn diwedd y 1950au, gan arwain at gyfnod o ffuglen drosedd dreisgar, arbrofol, a moesol amwys.
Yn yr Unol Daleithiau, tua'r un cyfnod a'r Oes Aur, blodeuai arddull di-raen a realistig o ffuglen drosedd a elwir hardboiled, gyda chymeriadau gwydn a phresenoldeb trais corfforol, gwaed, rhyw, ac iaith fras. Ditectif yn y ddinas fawr ydy prif gymeriad y stori hardboiled fel rheol, un sydd wedi ei ddadrithio a'i ddiflasu i raddau o ganlyniad i natur ei waith, ac sy'n brwydro'n erbyn llygredigaeth a chamymddwyn ei gyfoedion yn ogystal â gwehilion cymdeithas a throseddwyr proffesiynol. Yn aml byddai'r ditectif ei hun yn troi at gwffio a dihirwch yn ei ymdrech i orfodi'r gyfraith, gan beri dryswch moesol. Ymhlith meistri'r oes hardboiled oedd Dashiell Hammett, Raymond Chandler, James M. Cain, a Mickey Spillane. Is-genre gysylltiedig ydy roman noir, a adroddir o safbwynt dioddefwr, troseddwr, neu un a ddrwgdybir o drosedd, yn hytrach na ditectif.
Yn y 1950au dychwelodd plotiau deallus i ffuglen drosedd, tra'n cadw at naws di-gêl y mudiad o'r blaen, gan esgor ar straeon ingol gyda themâu seicolegol, yn aml yn canolbwyntio ar feddwl a chymhellion y troseddwr ei hun. Esiampl arloesol ydy cyfres Patricia Highsmith o nofelau am y twyllwr a llofrudd Tom Ripley, a gychwynnodd gyda The Talented Mr. Ripley (1955). Yn ddiweddarach ffynnai sawl is-genre, gan gynnwys y nofel gyffro gyfreithiol, sy'n dilyn hynt yr achos llys er enghraifft nofelau John Grisham; y ddrama heddlu, sy'n dilyn dulliau fforensig o archwilio trosedd; y "dirgelwch cartrefol", sy'n dwyn atgof o Oes Aur ffuglen dditectif; a ffuglen drosedd hanesyddol megis The Black Dahlia (1987) gan James Ellroy.