Kreis
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r landkreis (bathiad Cymraeg: Dosbarth) yn endid daearyddol-wleidyddol yn yr Almaen sy'n debyg i'r sir Gymreig o ran maint daearyddol a'i gyfrifoldeb gweinyddol. Nid yw'n bodoli, fodd bynnag, yng Ngogledd Rhine-Westphalia nac yn Schleswig-Holstein lle caiff ei adnabod fel kreis. Defnyddir y term 'kreis' hefyd yn answyddogol am bob un o'r 'siroedd' hyn. Nid yw dinasoedd mwya'r Almaen yn rhan o'r endidau hyn, ond maent yn gwneud gwaith tebyg ar ei liwt eu hunain. Gelwir y rhain yn Kreisfreie Stadt (llythrennol: "dosbarth gwledig") neu Stadtkreis ("ddosbarth dinesig").
O ran cyfrifoldebau gweinyddol, mae'r kreis yn gorwedd rhwng Talaith (y Länder) a'r bwrdeisdre llai a elwir yn Gemeinden.