Karakoram
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynyddoedd o amgylch y ffîn rhwng Pacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina ac India yw'r Karakoram. Yn dechnegol, nid ydynt yn rhan o'r Himalaya, ond yn ymarferol fe'i hystyrir yn aml fel rhan ohonynt.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Tajicistan, India, Affganistan, Pacistan |
Uwch y môr | 8,611 metr |
Cyfesurynnau | 35.8831°N 76.5089°E |
Hyd | 500 cilometr |
Cyfnod daearegol | Cretasaidd |
Cadwyn fynydd | Himalaya |
Cau
Saif y Karakoram yn rhanbarthau Gilgit, Ladakh, a Baltistan. Mae'n cynnwys mwy na 60 copa dros 7,000 medr o uchder. Y copa uchaf yw K2, mynydd ail-uchaf y byd, 8,611 m. Ceir mwy o rewlifau yma nag yn unman arall yn y byd heblaw ardal y pegynnau.