Joe Calzaghe
Paffiwr Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Paffiwr a phencampwr y byd yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.
Joe Calzaghe | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1972 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr |
Taldra | 182 centimetr |
Tad | Enzo Calzaghe |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WBO World Super Middleweight Champion |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Dechreuodd baffio yn broffesiynol yn 1993, ac enillodd pob un o'i 46 o ornestau dros yrfa a barodd bymtheg mlynedd. Yn 2006, cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Nid oes unrhyw un yn y categori uwch-ganol wedi llwyddo i fod yn bencampwr byd cyhyd. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.