Jaffeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn ôl yr Hen Destament, un o feibion Noa oedd Jaffeth (hefyd Japheth ac weithiau Iaffeth yn Gymraeg : IPA ˈdʒeɪfɪθ, Hebraeg יפת, Groeg Ιάφεθ, Iapheth, Lladin Iafeth neu Iapetus, Arabeg يافث). Yn y traddodiad Islamaidd cyfeirir ato gan amlaf fel Yafeth ibn Nuh (Jaffeth fab Noa). Ceir ei hanes yn negfed bennod Llyfr Genesis.
Yn y rhan fwyaf o'r ffynonellau, disgrifir Jaffeth fel mab ieuengaf Noa, ond mai traddodiadau eraill yn ei wneud y mab hynaf.