Ivo Andrić
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor Iwgoslafaidd yn yr iaith Serbo-Croateg oedd Ivo Andrić (10 Hydref 1892 – 13 Mawrth 1975) sy'n nodedig am ei nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth sy'n ymwneud â bywyd ym Mosnia yn ystod oes yr Otomaniaid. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1961 "am y grym epig a thrwy'r hyn y mae wedi olrhain themâu a darlunio tynghedau dynol a dynnwyd o hanes ei wlad".[1] Ei gampwaith ydy'r nofel Na Drini ćuprija ("Y Bont ar Afon Drina"; 1945).
Ivo Andrić | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1892 Dolac |
Bu farw | 13 Mawrth 1975 Beograd |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Awstria-Hwngari, Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid, Brenhiniaeth Iwcoslafia, State of Slovenes, Croats and Serbs |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, diplomydd, bardd, awdur ysgrifau |
Swydd | llysgennad |
Adnabyddus am | The Bridge on the Drina, Omerpaša Latas, Ex Ponto, Bosnian Chronicle, Devil's Yard, O priči i pričanju, Jelena, the Woman Who Is Not, Most na Žepi |
Arddull | barddoniaeth, nofel, stori fer |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia |
Priod | Milica Babić-Jovanović |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Urdd Arwr Llafur Sosialaidd, Order of the German Eagle |
llofnod | |
Ganwyd i deulu Croataidd ym Mosnia, rhanbarth a oedd ar y pryd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Astudiodd ym mhrifysgolion Zagreb, Fienna, Jagiełło (Kraków), a Graz. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y gyfrol o farddoniaeth Ex Ponto, yn 1918. Ysgrifennodd y gwaith hwnnw yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pryd gafodd ei arestio gan awdurdodau Awstria-Hwngari am iddo ymgyrchu dros annibyniaeth y Slafiaid Deheuol.
Yn sgil sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (1918–29), yn ddiweddarach Teyrnas Iwgoslafia (1929–41), ymunodd Andrić â'r gwasanaeth diplomyddol. Treuliodd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn Rhufain, Bwcarést, Madrid, a Genefa. Cafodd ei benodi'n llysgennad i'r Almaen yn 1939, pum mis cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, a daeth ei gyfnod yn y swydd honno i ben wedi i luoedd yr Echel oresgyn Iwgoslafia yn 1941. Dychwelodd Andrić i Beograd, dinas a oedd dan feddiannaeth yr Almaenwyr am weddill y rhyfel. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Andrić rai o'i weithiau pwysicaf, gan gynnwys Travnička hronika ("Stori Fosniaidd"; 1945) a Na Drini ćuprija.[2]