Triongl isosgeles
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn geometreg, triongl isosgeles yw triongl sydd â dwy ochr o hyd cyfartal. Gellir ei ddisgrifio fel triongl gyda dwy linell yr un hyd, neu fel triongl gydag o leiaf dwy linell yr un hyd. Mae'r triongl hafalochrog yn ffitio'n daclus o fewn y ddau ddifiniad yma, felly gellir dweud, hefyd, bod triongl hafalochrog hefyd yn driongl isosgeles, ac weithiau gellir ei alw'n "driongl iscosceles sgwâr". Mae enghreifftiau eraill o drionglau isosgeles yn cynnwys y triongl euraidd, ac arwynebau bipyramidau a rhai solidau Catalan.
Math | triongl |
---|---|
Y gwrthwyneb | scalene triangle |
Yn cynnwys | taldra, Ymyl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astudiwyd trionglau isosgeles ers o leiaf cyfnod hynafol yr Aifft a Babilon. Defnyddiwyd hwy'n aml fel addurniadau ac fel rhan allweddol o fewn pensaerniaeth.
Gelwir y ddwy ochr gyfartal yn "goesau", a'r trydydd yn "sylfaen". Gellir cyfrifo nodweddion eraill y triongl ee arwynebedd, perimedr a'r uchder drwy fformiwlâu syml. Mae gan bob driongl isosgeles echelin cymesuredd. Mae'r ddwy ongl gyferbyn a'r coesau'n ongl lem, sgwâr neu aflem, yn ddibynol ar yr ongl rhwng coesau'r triongl.
- Adeilad ym Mynwent Thornhill, Caerdydd, gyda dau driongl isosgeles.
- Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe; mae'r triongl isosgeles i'w weld yn y rhan uchaf o'r llun, gan ffurfio'r to.
- Y Pantheon, Rhufain
- Baner Guyana; gyda sawl triongl oddi mewn i'r petrual.
- Mae Baner Sant Lwsia yn cynnwys triongl isosgeles