Henry Cavill
actor a aned yn Saint Helier yn 1983 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Henry William Dalgliesh Cavill (ganed 5 Mai 1983) yn actor Prydeinig. Dechreuodd Cavill ei yrfa'n serennu fel Albert Mondego yn yr addasiad ffilm 2002 The Count of Monte Cristo. Aeth yn ei flaen i berfformio mewn rolau cefnogol mewn cyfresi teledu y BBC megis The Inspector Lynley Mysteries, Midsomer Murders a The Tudors cyn symud at berfformio mewn ffilmiau Hollywood megis Tristan & Isolde, Stardust ac Immortals.
Henry Cavill | |
---|---|
Ganwyd | Henry William Dalgliesh Cavill 5 Mai 1983 Saint Helier |
Man preswyl | Kensington, Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan, cynhyrchydd ffilm, actor |
Taldra | 1.85 metr |
Partner | Ellen Whitaker, Gina Carano |
Gwobr/au | Gwobr MTV i'r Arwr Gorau, Golden Raspberry Award for Worst Screen Couple/Ensemble |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Yn 2008, daeth Cavill yn wyneb a llefarydd swyddogol yr ymgyrch Dunhill, casgliad persawrau i ddynion. Fe'i gastiwyd fel aelod o gast ensemble y gyfres Showtime The Tudors yn 2007, yn serennu fel Charles Brandon, Dug 1af Suffolk tan diwedd y gyfres yn 2010. Daeth Cavill i amlygrwydd rhyngwladol ar ôl iddo gael ei gastio yn 2013 fel yr archarwr Superman yn y fersiwn newydd o'r gyfres ffilmiau, sy'n rhan o'r Bydysawd Estynedig DC. Roedd ffilm gyntaf y gyfres, Man of Steel, yn llwyddiant mawr, gyda Cavil yn ailgydio yn y rôl yn 2016 ar gyfer Batman v Superman: Dawn of Justice. Yn 2015, cyd-serennodd gydag Armie Hammer yn y ffilm gynllwyn The Man from U.N.C.L.E.