Hannah Bardell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Hannah Bardell (ganwyd 1 Mehefin 1983) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Livingston; mae'r etholaeth yn Falkirk a Gorllewin Lothian, yr Alban. Mae Hannah Bardell yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Hannah Bardell AS | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Graeme Morrice |
---|---|
Geni | (1983-06-01) 1 Mehefin 1983 (40 oed) Livingston, Gorllewin Lothian, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Livingston |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Stirling |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Fe'i ganed yn Craigshill, Livingston yn 1984. Astudiodd yn Broxburn Academy a Phrifysgol Stirling cyn gweithio ym myd y cyfryngau, yn benodol ar deledu gyda STV Glasgow a GMTV London ble roedd yn Gynorthwyydd Cynhyrchu rhaglen o'r enw Sunday Programme. Cyfarfu Alex Salmond yn 2007 a pherswadiodd ef hi i weithio ar eu hymgyrch etholiadol ar gyfer Etholiad Senedd yr Alban yn 2007. Wedi hynny, gweithiodd yn llawn amser i Salmond ac Ian Hudghton (Aelod o Senedd Ewrop) am dair blynedd.