Hanes hoywon yn yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn ystod y 1920au, profodd bobl hoyw yr Almaen, ac yn enwedig trigolion Berlin, gryn dipyn o ryddid a chawsant eu derbyn llawer yn fwy na mewn rhannau eraill o'r byd. Fodd bynnag, yn sgil esgyniad Adolf Hitler i bŵer, targedwyd dynion hoyw, a lesbiaid i raddau llai, gan y Blaid Natsïaidd a daethant yn rhan o'r bobl a laddwyd yn yr Holocost. O ddechrau 1933 ymlaen, gwaharddwyd mudiadau hoyw, llosgwyd llyfrau ysgolheigaidd am gyfunrywioldeb a rhywioldeb yn gyffredinol, a llofruddiwyd aelodau hoyw'r Blaid Natsiaidd. Lluniodd y Gestapo rhestrau o bobl cyfunrywiol, a orfodwyd i gydymffurfio'n rhywiol i'r "norm Almaenig".
Enghraifft o'r canlynol | agwedd o hanes |
---|---|
Math | persecution of LGBT people in Nazi Germany, cyfunrywioldeb, homosexuality in Germany |
Daeth i ben | 8 Mai 1945 |
Dechrau/Sefydlu | 30 Ionawr 1933 |
Dechreuwyd | 1933 |
Daeth i ben | 8 Mai 1945 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Amcangyfrifwyd fod rhyw 1.2 miliwn o ddynion hoyw yn yr Almaen ym 1928 (6% o ddynion dros 20 oed). Rhwng 1933-45, arestiwyd tua 100,000 o dan amheuaeth o fod yn hoyw, a dedfrydwyd rhyw 50,000 ohonynt. Treuliodd y mwyafrif o'r dynion hyn eu cosb mewn carchardai cyffredin, ac amcangyfrifir y carcharwyd rhwng 5,000 a 15,000 ohonynt mewn gwersylloedd crynhoi. Nid yw'n glir faint o'r 5,000 i 15,000 a fu farw yn y gwersylloedd, ond cred yr ysgolhaig blaenllaw Ruediger Lautman y gallai'r cyfradd marwolaeth o ddynion cyfunrywiol yn y gwersylloedd crynhoi wedi bod mor uchel a 60%. Cafodd dynion hoyw eu trin mewn ffyrdd anghyffredin o greulon gan swyddogion y gwersylloedd, a chawsant eu herlid gan eu cyd-garcharorion hefyd. Roedd hyn yn ffactor yn y cyfradd marwolaeth uchel ymysg pobl hoyw, o'i gymharu â grwpiau eraill.
Ar ôl y rhyfel, ni chydnabyddodd y mwyafrif o wledydd y modd y cafodd pobl hoyw eu trin yn y gwersylloedd crynhoi, ac ail-arestiwyd a charcharwyd rhai dynion ar sail tystiolaeth a gasglwyd yn ystod blynyddoedd y Natsïaid mewn pŵer. Dim ond yn ystod y 1980au y dechreuodd llywodraethau gydnabod yr hyn a ddigwyddodd, ac ni ymddiheurodd y llywodraeth Almaenig i'r gymuned hoyw tan 2002. Fodd bynnag, mae'r cyfnod hwn yn parhau i fod yn bwnc llosg. Yn 2005, mabwysiadodd y Senedd Ewropeaidd adduned ar yr Holocost a oedd yn cynnwys erledigaeth pobl cyfunrywiol.