Gwobr Sakharov
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Gwobr Sakharov er rhyddid meddwl, a enwir ar ôl y gwyddonydd Sofietaidd a gwrthdystiwr Andrei Sakharov, yn Rhagfyr 1988 gan Senedd Ewrop fel cyfrwng i anrhydeddu unigolion neu fudiadau sydd wedi cysegru eu hunain i amddiffyn hawliau dynol a rhyddid yr unigolyn.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Label brodorol ...
Enghraifft o'r canlynol | human rights award |
---|---|
Label brodorol | Sakharov Prize for Freedom of Thought |
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Pencadlys | Strasbwrg |
Enw brodorol | Sakharov Prize for Freedom of Thought |
Gwefan | http://www.europarl.europa.eu/sakharovprize/en/home/the-prize.html, http://www.europarl.europa.eu/sakharovprize/it/home/the-prize.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Rhoddir y Wobr Sakharov bob blwyddyn ar neu o gwmpas y 10fed o Ragfyr, sef y diwrnod pan gadarnaodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredin am Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights) yn 1948, a ddethlir hefyd fel y Diwrnod Hawliau Dynol.