Gwobr Golden Globe am y Ffilm Orau - Drama
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r dudalen hon yn rhestru'r enillwyr a'r rhai a enwebwyd am Wobrau Golden Globe yng nghategori'r Ffilm Orau - Drama (yn Saesneg:Best Motion Picture - Drama), ers i'r gwobrau gael eu sefydlu ym 1951.
Pan gyflwynwyd y gwobrau'n wreiddiol, un categori yn unig oedd ar gyfer y Ffilm Orau. Yn y 9fed Seremoni Gwobrwyo'r Golden Globe, rhannwyd y gwobrau Actio a'r Ffilm Orau yn ddwy i greu'r categoriau Drama a Sioe Gerdd neu Gomedi. Ers 1951, dim ond unwaith yr unwyd y gwobrau, a hynny ym 1953.
Yn y rhestr a ddilyn, mae'r teitlau cyntaf a restrir yn dynodi enillwyr, mae'r rhain mewn testun bras ar gefndir glas; enwebiadau yw'r rhai na sydd mewn testun bras. Rhoddir y blynyddoedd y rhyddhawyd y ffilmiau ac nid blwyddyn y seremoniau, sydd bob amser yn digwydd yn y flwyddyn ddilynol.