Gordyfiant niweidiol o algâu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Algâu sy'n tyfu'n gyflym heb ei reoli un ai mewn dŵr croyw neu amgylcheddau morol yw gordyfiant niweidiol o algâu. Gan fod rhai algâu yn cynhyrchu tocsinau, gallant fod yn niweidiol i bobl, mamaliaid, adar a physgod pan gaiff y tocsinau eu bwyta. Wrth i'r gordyfiant dyfu, mae'n cael gwared â'r ocsigen yn y dŵr ac yn atal goleuni'r haul rhag cyrraedd pysgod a phlanhigion.
Gall y gordyfiannau bara o rai diwrnodau hyd at nifer o fisoedd. Ar ôl i'r gordyfiant farw, mae'r microbau sy'n dadelfennu'r algâu marw yn defnyddio hyd yn oed mwy o ocisgen, a all achosi at leihad sylweddol mewn organebau pysgod. Pan fo'r parthau â'r lleihad hwn mewn ocisgen yn gorchuddio ardal fawr am gyfnod hir, cyfeirir atynt fel 'parthau marw' lle nid yw pysgod na phlanhigion yn gallu goroesi.
Ymhlith yr achosion o ordyfiannau niweidiol o algâu mae amodau uchel o ran maetholion, yn bennaf nitradau a ffosfforws a gânt eu achosi gan amaethyddiaeth a diwydiannau eraill. Mae tymheredd dŵr uwch a llai o gylchrediad hefyd yn ffactorau. Gall gordyfiannau niweidiol o algâu achosi niwed sylweddol i anifeiliaid, yr amgylchedd ac economïau. Mae eu meintiau a'u mynychder wedi bod yn cynyddu'n fyd-eang, ffaith y mae nifer o arbenigwyr wedi'i phriodoli i newid hinsawdd byd-eang. Mae Gweinyddiaeth Cefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol yr UDA yn rhagweld rhagor o ordyfiannau niweidiol yn y Cefnfor Tawel.[1]