Glöyn cynffon gwennol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallowtail, a'r enw gwyddonol yw Papilio machaon.[1]
Ffeithiau sydyn Papilio machaon, Dosbarthiad gwyddonol ...
Papilio machaon | |
---|---|
P. m. britannicus yn Norfolk | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Papilionidae |
Genws: | Papilio |
Rhywogaeth: | P. machaon |
Enw deuenwol | |
Papilio machaon Linnaeus, 1758 | |
Cyfystyron | |
|
Cau
Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America ac mae hyd ei adenydd tua 65 - 86mm. Ceir 37 isrywogaeth. P. m. britannicus yw isrywogaeth gynhenid Prydain; mae'n goroesi yn y Norfolk Broads yn unig. Mae P. m. gorganus (glöyn cynffon gwennol Ewrop; Continental Swallowtail) yn ymwelydd prin o dir mawr Ewrop i dde Lloegr a Chymru.