Giovanni Pierluigi da Palestrina
cyfansoddwr a aned yn 1520 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr o'r Eidal yng nghyfnod y Dadeni oedd Giovanni Pierluigi da Palestrina (rhwng 3 Chwefror 1525 a'r 2 Chwefror 1526 - 2 Chwefror 1594). Palestrina, fel y'i adnabyddir fel rheol, oedd ffigwr mwyaf adnabyddus cerddoriaeth Rhufain yn yr 16g. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad gerddoriaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ac ystyrir fod ei waith yn cynrychioli uchafbwynt cerddoriaeth aml-leisiol (polyffoni) y Dadeni, yn cynnwys nifer o ganeuon madrigal a fersiwn cofiadwy o'r emyn fawr Stabat Mater Dolorosa, i wyth lais.
Giovanni Pierluigi da Palestrina | |
---|---|
Ganwyd | 1525 Palestrina |
Bu farw | 2 Chwefror 1594 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, côr-feistr, athro cerdd, organydd, cyfarwyddwr côr, canwr |
Swydd | côr-feistr |
Arddull | cerddoriaeth y Dadeni, cerddoriaeth grefyddol, Cerddoriaeth yr offeren, motêt, church music |
Priod | Lucrezia Gori, Virginia Dormoli |
Cafodd ei eni yn nhref fechan Palestrina, ar ymyl y Campagna Romana ger Rhufain. Pan oedd tua 25 oed cafodd ei apwyntio yn feistr côr Iwlian yn y Fatican. Treuliodd ran helaeth gweddill ei oes yn gweithio yn Rhufain.
Gelwir dull cerddorol arbennig ar gyfer lleisiau yn Alla Palestrina (Eidaleg, "yn null Palestrina") ar ei ôl.