Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 oedd yr wythfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kingston, Jamaica, oedd cartref y Gemau rhwng 4-13 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn y Caribî yn ystod Gemau Olympaidd Rhufain ym 1960 gyda Jamaica yn sicrhau 17 pleidlais, Caeredin 12 a Salisbury, Rhodesia 5.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1966 |
Dechreuwyd | 4 Awst 1966 |
Daeth i ben | 13 Awst 1966 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Kingston |
Yn cynnwys | badminton at the 1966 British Empire and Commonwealth Games |
Cau
Ffeithiau sydyn 8fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig, Campau ...
Cau
Cafwyd newid i'r rhestr chwaraeon am y tro cyntaf ers 1950 wrth i badminton a saethu gymryd lle bowlio lawnt a rhwyfo.
Cafodd Hen Wlad fy Nhadau ei chwarae am y tro cyntaf i gyfarch medal aur gan Gymro wrth i Arglwydd Abertawe wrthod symud o'r podiwm ar ôl i God Save The Queen chwarae hyd nes bo'r band yn chwarae'r anthem Gymreig.[1]