Gavin & Stacey
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gavin & Stacey yn gomedi sefyllfa Brydeinig, a ysgrifennwyd gan James Corden a Ruth Jones, sy'n dilyn dau deulu sy’n dod at ei gilydd - un o Loegr ac un o Gymru - ar ôl i gwpl ifanc syrthio mewn cariad. Mae Mathew Horne a Joanna Page yn chwarae'r prif gymeriadau, tra bod yr awduron hefyd yn serennu fel ffrindiau Gavin a Stacey, Smithy a Nessa. Mae aelodau cast eraill yn cynnwys Alison Steadman a Larry Lamb, sy'n chwarae rhieni Gavin, Pam a Mick, a Melanie Walters a Rob Brydon, sy'n portreadu mam Stacey, Gwen, a'i hewythr, Bryn.
Gavin & Stacey | |
---|---|
Genre | Comedi Drama |
Serennu | Mathew Horne Joanna Page Ruth Jones James Corden Alison Steadman Larry Lamb Melanie Walters Rob Brydon |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 21 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Christine Gernon |
Amser rhedeg | 19x 30 munud 2x 60 munud 2x 8 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Baby Cow Productions |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Three (2007–2008) BBC One (2008–2010, 2019) |
Darllediad gwreiddiol | Rhaglen gwreiddiol: 13 Mai 2007 (2007-05-13) – 1 Ionawr 2010 (2010-01-01) Pennod Arbennig: 25 Rhagfyr 2019 (2019-12-25) |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Er i'r gyfres gael ei lleoli yn Billericay, Essex a'r Barri, Bro Morgannwg cafodd rhannau helaeth o'r gyfres eu ffilmio yn y Barri ac ardaloedd cyfagos megis Ynys y Barri, Dinas Powys, Sully, Penarth a Chaerdydd.
Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd y byddai'r sioe yn cael ei hadfywio gyda rhaglen arbennig ar gyfer y Nadolig ym 2019. Dangoswyd y ddwy gyfres cyntaf ar BBC Three, ond oherwydd pobligrwydd mawr symudwyd i BBC Two, ac yn i BBC One. Roedd penodau olaf y gyfres derfynol yn rhan bwysig o raglenni tymhorol y BBC ar y pryd, ac fe'u darlledwyd ar Ddydd Nadolig 2009 a Dydd Calan 2010 gyda dros 10 miliwn yn gwylio pob pennod.
Cafodd Gavin & Stacey ei ganmol fel sioe arloesol i BBC Three, a ddaeth yn sioe fwyaf enwebedig yng Ngwobrau Comedi Prydain 2007. Enillodd sawl gwobr, gan gynnwys BAFTA Cymru, a Gwobr Comedi Teledu a Gwobrau Comedi Prydain, yn 2008. Mae'r rhaglen hefyd wedi cael derbyniad da mewn sawl gwlad arall. Yn 2019, enwyd Gavin & Stacey yr 17fed comedi Prydeinig gorau, mewn arolwg gan y Radio Times.