Friedrich Dürrenmatt
awdur a dramodydd o'r Swistir (1921-1990) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Friedrich Dürrenmatt (5 Ionawr 1921 - 14 Rhagfyr 1990) yn awdur iaith Almaeneg a dramodydd. Fe'i anwyd yn Konolfingen, yng Nghanton Emmental rhan o Bern) yn fab i Weinidog ac yn wyr i'r gwleidydd, Ulrich Dürrenmatt. Symudodd y teulu i Bern ym 1935. Astudiodd Almaeneg ym Mhrifysgol Zurich tan 1941, ond gorffenodd ei radd ym Mhrifysgol Bern. Dechreuodd fel llenor ym 1943. Priododd ar 11 Hydref 1946, i'r actores Lotti Geissler. Ond bu iddi farw ym 1983, ac ailbriododd ym 1984 i actores arall, Charlotte Kerr. Bu farw 14 Rhagfyr 1990 yn 69 oed yn Neuchâtel.
Friedrich Dürrenmatt | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1921 Konolfingen |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1990 Neuchâtel |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, ysgrifennwr, arlunydd, sgriptiwr, bardd, arlunydd graffig |
Adnabyddus am | The Physicists, The Visit, Suspicion, The Judge and His Hangman, Q602782, A Dangerous Game, The Pledge: Requiem for the Detective Novel, Der Doppelgänger |
Arddull | drama, rhyddiaith |
Tad | Reinhold Dürrenmatt |
Mam | Hulda Dürrenmatt |
Priod | Lotti Dürrenmatt, Charlotte Kerr |
Plant | Ruth Dürrenmatt, Peter Dürrenmatt, Barbara Dürrenmatt |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Schiller, Medal Buber-Rosenzweig, Gwobr-Jean-Paul, Gwobr Schiller Dinas Mannheim, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Franz-Grillparzer, Ernst Robert Curtius Award, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Q105870591 |
Mae ei ddrama (Der Besuch der alten Dame, 1956) yn fyd enwog a pherfformir ef yn gyson o hyd. Ond mae llawer yn meddwl bod ei brif waith yw y Ffisegwyr (Die Physiker, 1962), sy'n trafod peryglon gwyddoniaeth i'r ddynoliaeth. Yn aml ysgrifennai am Yr Ail Ryfel Byd. Mae ei waith yn amrywio o ddramâu avant-garde i ysgrifennu deifiol. Arwyddair Dürrenmatt oedd: "Does dim diweddglo i'r stori heb dro gwael ynddi". Roedd yn aelod o'r grwp Gruppe Olten.