Ffonoleg Gaeleg yr Alban
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nid oes gan Aeleg yr Alban ffonoleg safonol. Er bod yr wybodaeth isod yn berthnasol i bob neu bron pob tafodiaith, sonnir am dafodieithoedd gogledd-orllewin yr Alban (gogledd-ddwyrain yr Ucheldiroedd, Ynysoedd Heledd a'r Ynys Hir) yn fwy nag eraill gan mai dyna lle mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn byw.
Nodweddion ffonoleg Gaeleg yw:
- nifer mawr o ffonemau corunol soniarus (9 ohonynt fel arfer)
- set gyferbyniol o gytseiniaid taflodedig a didaflodi
- acen gref ar sillaf gyntaf gair a lleihau llafariaid mewn sillafau diacen
- rhaganadlu ffrwydrolion mewn rhai cyd-destunau
- goslef ddisgynnol yn y mwyafrif o frawddegau, gan gynnwys cwestiynau
- treiglad meddal a ffenomena sandhi eithafol
Oherwydd bod cymaint o siaradwyr Gaeleg ar hyd arfordir y gorllewin a'i ynysoedd niferus, mae tafodieithegwyr Gaeleg yn tueddu i ddweud bod gan bob ynys ei thafodiaith ei hun. Ar y tir mawr, nid ydynt wedi penderfynu ar ffiniau tafodieithol eglur hyd yn hyn ond, yn gyffredinol, y prif ardaloedd yw Argyllshire, Perthshire, Moidart/Ardnamurchan, Wester Ross a Sutherland.