Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen
corff llywodraethol pêl-droed Sbaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffedersasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen yn Sbaeneg, Real Federación Española de Fútbol neu RFEF yw'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio clybiau pêl-droed a threfnu cystadlaethau cenedlaethol a gemau rhyngwladol Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen. Mae gan y Gymdeithas 671,581 o ddeiliaid trwyddedau pêl-droed yn 2008[3], ond mae bron i ddyblu'r nifer hynny yn chwarae futsal, h.y. tua 1,200,000 o chwaraewyr trwyddedig[4]. Lleolir ei phencadlys yn La Ciudad del Fútbol, Las Rozas ger y brifddinas, Madrid.