Ffawna Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr anifeiliaid sy'n byw yng Nghymru yw ffawna Cymru, milod Cymru, milfodeg Cymru neu'n syml anifeiliaid Cymru. Mae rhannau anghysbell o'r wlad yn gartref i rai mamaliaid ac adar sydd wedi darfod o weddill Prydain Fawr, neu'n brin mewn mannau eraill o'r ynys, gan gynnwys y ffwlbart, y bele, y barcud coch a'r frân goesgoch. Ceir niferoedd mawr o adar y môr a'r glannau, ac mae'r dolffin trwynbwl yn byw ym Mae Ceredigion.